Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA(4)-20-12

 

CLA179

 

Canllawiau Statudol ar gyfer Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol

 

1.   Diben y Canllawiau yw esbonio sut y dylai awdurdodau lleol roi’r system ar gyfer tir a halogwyd yn ymbelydrol ar waith, gan gynnwys sut y dylent fynd ati i benderfynu a yw tir wedi’i halogi, yn ystyr cyfreithiol y term.

 

2.   Ar 24 Medi 2012, gosodwyd y Canllawiau Statudol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd â Memorandwm Esboniadol cryno. Gall canllawiau statudol fod yn is-ddeddfwriaeth (neu beidio). Yn arferol, y prawf yw a yw’r canllawiau’n ddeddfwriaethol eu natur. Mae’n ofynnol bod y personau (gan gynnwys cyrff cyhoeddus) y cyfeirir y canllawiau atynt yn rhoi ystyriaeth ddyladwy i ganllawiau o’r fath. Yn ymarferol, golyga hyn fod yn rhaid iddynt gael rheswm da iawn dros beidio â dilyn y canllawiau hynny. Rhaid bod modd defnyddio’r rheswm hwnnw i gyfiawnhau’r camau a fabwysiadwyd mewn unrhyw weithdrefn adolygiad barnwrol.

 

3.   Mae’r weithdrefn sy’n berthnasol i’r canllawiau yn ddeddfwriaethol ei natur, a chytunwyd felly y bydd y Pwyllgor yn ystyried y canllawiau.

 

Pŵer galluogi

 

4.   Mae gan Weinidogion Cymru bwerau amrywiol i gyhoeddi canllawiau o dan Ran IIA o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y canllawiau yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

 

Gweithdrefn

 

5.   Mae’r weithdrefn sydd i’w chymeradwyo wedi’i nodi yn adran 78YA fel a ganlyn:-

Adran 78YA

(1)          Any power of the Minister for the Environment and Sustainable Development to issue guidance under this Part shall only be exercisable after consultation with the appropriate Agency and such other bodies or persons as he may consider it appropriate to consult in relation to the guidance in question.

(2)          A draft of any guidance proposed to be issued under section 78A(2) or (5), 78B(2) or 78F(6) or (7) above shall be laid before the National Assembly for Wales and the guidance shall not be issued until after the period of 40 days beginning with the day on which the draft was so laid or, if the draft is laid on different days, the later of the two days.

(3)          If, within the period mentioned in subsection (2) above, the National Assembly for Wales resolves that the guidance, the draft of which was laid before it, should not be issued, the Minister for the Environment and Sustainable Development shall not issue that guidance.

(4)          In reckoning any period of 40 days for the purposes of subsection (2) or (3) above, no account shall be taken of any time during which the National Assembly for Wales is dissolved or prorogued or during which the National Assembly for Wales is adjourned for more than four days.

(5)          The Minister for the Environment and Sustainable Development shall arrange for any guidance issued by him under this Part to be published in such a manner as he considers appropriate.

 

6.   Mae’r canllawiau yn amodol ar amrywiad ar y weithdrefn negyddol. Fel yn achos y weithdrefn negyddol, gellir llunio’r canllawiau a gallant ddod i rym, oni bai fod y Cynulliad yn gwneud penderfyniad sy’n groes i hyn o fewn cyfnod penodol. Fodd bynnag, yn achos offerynnau statudol a wneir o dan y weithdrefn negyddol, gwneir yr offerynnau cyn eu gosod fel arfer. Yn yr achos hwn, gosodir y canllawiau ar ffurf drafft, ac ni chânt eu gwneud tan ddiwedd y cyfnod penodedig. Felly, mae’r weithdrefn yn rhoi cwmpas ehangach ar gyfer craffu na gweithdrefn negyddol safonol.

 

Craffu

 

7.   Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i graffu ar ganllawiau sy’n ddarostyngedig i weithdrefn yn y Cynulliad. Os ystyrir y canllawiau yn is-ddeddfwriaeth na wnaed mewn offeryn statudol, caiff y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.7(i). Hyd yn oed os na chaiff ei ystyried yn y modd hwn, caiff y Pwyllgor gyflwyno adroddiad arno o hyd, fel mater deddfwriaethol cyffredinol o dan Reol Sefydlog 21.7(v).

 

Materion technegol: craffu

 

8.   Pe bai hwn yn offeryn statudol, byddai’r mater wedi cael ei ddwyn i sylw’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

9.   Mae gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ddisgresiwn i gyhoeddi’r canllawiau mewn modd sy’n briodol, yn ei farn ef. (Adran 78YA (5)).

 

10.        Ymddengys bod camgymeriad argraffyddol ym mharagraff 3 o’r Memorandwm Esboniadol sy’n nodi: “This Statutory Guidance has been scored in accordance with the Welsh Government’s Welsh Language Scheme and does require translation due to the length, the technical nature and limited target audience of the document.”

 

Rhinweddau: craffu

 

11.        Ni nodwyd unrhyw bwyntiau rhinweddau a fyddai wedi bod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 pe bai hwn wedi bod yn offeryn statudol.

 

12.        Tynnir sylw’r Cynulliad at y mater hwn o dan Reol Sefydlog 21.7, oherwydd ei fod yn codi materion deddfwriaethol a gweithdrefnol sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Hydref 2012

 

Ymatebodd y Llywodraeth fel a ganlyn:

 

Canllawiau Statudol Drafft ar gyfer Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol 2012

 

Cafodd y Canllawiau drafft eu sgorio yn ôl meini prawf Cynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru a phennwyd nad oedd angen eu cyfieithu oherwydd hyd, natur dechnegol a maint cyfyngedig y gynulleidfa darged. Rwy’n ddiolchgar i’r Pwyllgor am dynnu sylw at y gwall teipio yn y Memorandwm Esboniadol a byddaf yn sicrhau y caiff ei gywiro mewn unrhyw gopïau a ddosberthir yn y dyfodol.